Post Reply 
 
Thread Rating:
  • 0 Votes - 0 Average
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
Ar y Fainc
05-24-2011, 10:26 AM
Post: #1
Ar y Fainc
Smile Mae hwn yn edrych fel noson dissorol:

You are not allowed to view links. Register or Login to view.

Quote:Cynhelir Noson o farddoniaeth gyda 15 o sêr y byd barddol - o dan arweiniad yr Archdderwydd T James Jones - ym Mharc y Scarlets ar nos Iau 2il Mehefin.

Mae cartref rygbi'r Scarlets wedi croesawu nifer o dimau talentog ers symud i Barc y Scarlets ond dyw'r stadiwm ddim wedi gweld tim mor dalentog a'r Scarlets Barddol. Mae'r XV, sy'n cynnwys rhai o enillwyr mwyaf diweddar y byd barddol, yn gyfatebol i'r Barbariaid ac mae'n cynnwys talent barddol gorau Cymru.

Yn cadw trefn ar y noson y bydd y dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens - ei waith ef bydd sicrhau bod y tim yn chwarae'n deg.

Mae Ar Y Fainc wedi ei drefnu fel ran o Flwyddyn Dysteb Dafydd Jones, a dyma'r tro cyntaf i gynifer o feirdd enwog ymuno mewn un lle.

Y XV ar y tim bydd yr Archdderwydd T James Jones, Tudur Dylan, Ceri Wyn Jones, Mererid Hopwood, Tudur Hallam, Idris Reynolds, Emyr Lewis, Robat Powell, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, Karen Owen, Emyr Davies Osian Rhys Jones, Rhys Iorwerth, ac Aneirin Karadog.

Ymhlith llwyddiannau unigol y tim y mae saith Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, deg Cadair Cenedlaethol a 12 Cadair yr Urdd.

Cadair yn £10 yn cynnwys arlwy barddonol a bowlen o gawl. Fe fydd y bar ar agor a'r noson i ddechrau am 7.15pm.

Tocynnau ar werth o Swyddfa Docynnau Parc y Scarlets, ffoniwch 0871 871 8088.
Find all posts by this user
Quote this message in a reply
05-24-2011, 10:39 AM
Post: #2
RE: Ar y Fainc
Werth mynd i weld mae'n siwr. Siom fyddai lawr yn Llundain ar y pryd!
Find all posts by this user
Quote this message in a reply
05-24-2011, 11:29 AM (This post was last modified: 05-24-2011 11:30 AM by Rob o'r Bont.)
Post: #3
RE: Ar y Fainc
Roedd Robat Powell yn dysgu Franeg i mi nol yn y 70ai yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Cool
Find all posts by this user
Quote this message in a reply
Post Reply 


Forum Jump:


User(s) browsing this thread: 1 Guest(s)